Jun 30, 2021 by Chris Denham

Sut mae colegau'n paratoi ar gyfer eu dyletswyddau newydd?

Sut mae colegau'n paratoi ar gyfer eu dyletswyddau newydd?

Mae colegau yng Nghymru bob amser wedi ceisio diwallu anghenion eu dysgwyr mewn ffordd sy'n eu helpu i fagu hyder a llwyddiant. Mae'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno ledled Cymru wedi rhoi cyfle inni ailfeddwl sut rydyn ni'n gwneud hyn. Er bod y systemau a'r gweithdrefnau yr ydym yn eu cyflwyno’n ddefnyddiol, rhan bwysicaf Trawsnewid ADY fu'r hyfforddiant a ddarparwyd gennym ar gyfer ein staff.

 

Mae ADY o Bwys i Bawb
Un o'r agweddau pwysicaf fu hyfforddi ein darlithwyr fel eu bod yn gallu diwallu anghenion pob dysgwr yn eu hystafell ddosbarth neu weithdy yn well. Rydym yn galw hyn yn ‘Ymarfer Cynhwysol’ ac mae pob coleg wedi bod yn gweithio gyda staff i sicrhau eu bod yn deall pwysigrwydd eu rôl a bod ganddynt syniadau y gallant eu defnyddio wrth addysgu. Mae hyn hefyd yn cynnwys deall gwahanol fathau o anhawster dysgu ac anabledd a sut mae'r rhain yn effeithio ar bobl yn eu dysgu.

 

Sgiliau Arbenigol
Mae colegau wedi bod yn brysur yn sicrhau bod ganddyn nhw staff sydd â chymwysterau a phrofiad arbenigol i sicrhau eu bod nhw'n gallu darparu'r gefnogaeth a'r arweiniad mwyaf effeithiol. Cwblhaodd staff o bob un o’r 13 coleg Dystysgrif Meistr mewn Awtistiaeth yn gynharach eleni (cyfanswm o 50 aelod o staff!) Ac mae gennym fwy sy’n cofrestru ar gyfer y rhaglen hon ar gyfer 2021/22. Mae gan bob coleg staff sydd wedi'u hyfforddi fel aseswyr SpLD (Anawsterau Dysgu Penodol) sy'n gallu asesu am bethau fel Dyslecsia ac sy'n gallu cefnogi dysgwyr i ddatblygu strategaethau i'w helpu i ddod yn annibynnol. Mae gan golegau hefyd staff a all gynorthwyo dysgwyr i ddefnyddio technoleg arbenigol.

 

ALNCo
Mae gan bob coleg o leiaf un cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol sy'n sicrhau bod pob dysgwr yn derbyn y cefnogaeth briodol. Mae'r uwch aelodau staff hyn wedi derbyn hyfforddiant dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau eu bod yn teimlo'n hyderus i wneud eu gwaith yn dda.

 

Staff Cymorth
Mae ein staff cymorth yn rhan hynod werthfawr o'r tîm ac mae pob un o'n colegau wedi bod yn darparu hyfforddiant i sicrhau eu bod yn hyderus wrth gefnogi pobl ifanc. Mae rhan bwysig yn cynnwys datblygu sgiliau wrth alluogi annibyniaeth dysgwyr. Coleg yn aml yw'r addysg ffurfiol olaf y mae pobl ifanc yn ei derbyn cyn mynd i fyd gwaith. Credwn ei bod yn bwysig annog pob person ifanc i fod mor annibynnol yn eu dysgu â phosibl.

 

Gwybodaeth Bellach

Am wybodaeth bellach neu i drafod beth fydd y ddeddfwriaeth newydd yn ei olygu i chi, cysylltwch ag Arweinydd Trawsnewid ADY ColegauCymru ar gyfer Addysg Bellach, Chris Denham. Chris.Denham@ColegauCymru.ac.uk