Rhiant neu Ofalwr


Cyfle i wrando ar fyfyrwyr y coleg a’u teuluoedd yn siarad am eu profiadau eu hunain o symud o ysgol i addysg bellach.

Ydych chi’n adnabod person ifanc sy'n ystyried symud ymlaen i goleg ac am gael rhagor o wybodaeth? Mae’r fideos isod yn dangos beth allwch ei ddisgwyl yn ystod pob cam o’r broses.

Cyn Gwneud Cais

Gall symud ymlaen i addysg coleg fod yn gam mawr i unrhyw ddisgybl a’i deulu, felly bydd colegau’n gweithio i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei groesawu a’i baratoi ar gyfer ei gam nesaf.

 

Bywyd Coleg

Beth all y person ifanc ei ddisgwyl wrth gerdded drwy’r drysau mewn coleg? Mae rhagor o wybodaeth yn y fideo isod.

 

Y Broses Drosglwyddo

Tra bydd disgyblion yn y coleg, mae'n bwysig eu bod yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth ar eu taith. Byddwn yn treulio amser yn dod i’w hadnabod a byddwn yn gweithio gyda nhw i ddeall beth sy'n bwysig.