Yn fy nyddiau cynnar fel Cydgysylltydd ADY ac yn awyddus i sicrhau bod person ifanc yn cael cefnogaeth lawn, cymerais fy mod yn gwybod pa addasiadau oedd eu hangen ar gyfer rhywun a oedd wedi nodi ar gais bod ganddi nam ar y golwg.
Treuliais oriau yn mynd trwy ddeunyddiau cwrs, yn e-bostio staff ac yn gwneud pob addasiad posibl i wneud yr adnoddau’n addas ar ei chyfer. Pan gyfarfûm â’r dysgwr, cefais wybod ar unwaith fod popeth roeddwn wedi’i wneud wedi sicrhau nad oedd y deunydd yn addas. Ffont anghywir, maint ffont anghywir, ar A3 pan oedd hi eisiau A4 - doeddwn i wedi gwneud dim byd yn iawn er gwaethaf fy ymdrechion gorau.
Wrth weld cais gan berson ifanc oedd yn defnyddio cadair olwyn, mynnodd darlithydd y dylid trefnu gweithiwr cymorth i wthio’r dysgwr o gwmpas y campws. Roedd y dyn ifanc hwnnw’n chwarae rygbi cadair olwyn dros Gymru, eisiau bod yn annibynnol wrth symud o gwmpas ac yn sicr nid oedd eisiau i rywun gael ei neilltuo iddo. Nid oedd yn gweld ei hun yn anabl, roedd yn defnyddio cadair olwyn.
Mae fy nysgwyr yn gwybod yr heriau y maent yn eu hwynebu ac mae gwrando arnynt yn hanfodol. Mae angen i ni ddarganfod beth sy'n gweithio iddyn nhw ond hefyd beth sydd heb weithio ac yn bwysicaf oll, peidio â gwneud rhagdybiaethau ar yr hyn rydyn ni'n meddwl sydd ei angen.
Elaine Jones - Rheolwr ADY, Coleg Gwent